Disgynnodd prisiau tai ym Mhrydain yn gynt na’r disgwyl mis yma wrth i’r cwymp a ddechreuodd yn yr haf fagu stêm.

Yn ôl cymdeithas adeiladu Nationwide syrthiodd prisiau tai 0.7% ym mis Hydref, dwywaith yn gynt nag oedden nhw wedi’i ddisgwyl.

Mae prisiau tai wedi syrthio 1.5% dros y tri mis diwethaf, y cwymp mwyaf ers Ebrill 2009.

Erbyn hyn mae tŷ ym Mhrydain werth £164,381 ar gyfartaledd, £2,376 yn llai nag ym mis Medi.

Disgynnodd prisiau tai 0.5% ym mis Gorffennaf a 0.9% ym mis Awst, ond fe wnaethon nhw aros yn wastad ym mis Medi.

Yn ôl Martin Gahbauer, prif economegydd Nationwide, bydd prisiau tai yn disgyn 1% yn ystod 2010.

Dywedodd cwmni dadansoddiad economaidd IHS Global Insight eu bod nhw’n disgwyl i brisiau tai aros yn weddol wastad drwy gydol 2010 cyn syrthio 10% erbyn diwedd 2011.