Mae yna ddryswch ym Mharc Cenedlaethol Exmoor ar ôl i sawl person lleol honni eu bod nhw wedi gweld carw enwog yn crwydro’r bryniau yno.
Roedd yna ddadlau mawr yr wythnos diwethaf ar ôl adroddiadau bod heliwr wedi saethu a lladd yr Emperor, un o anifeiliaid mwyaf Prydain, oedd dros naw troedfedd o uchder.
Ond erbyn hyn mae awgrymiadau bod yr arbenigwr ar geirw sy’n honni iddo glywed y carw yn cael ei saethu, ac yna gweld ei gorff yn cael ei symud, wedi gwneud camgymeriad.
Erbyn iddo gyrraedd man y saethu honedig nid oedd yno gorff carw dim ond ôl gwaed.
Dywedodd Lesley Prior, 54, ffermwr sy’n byw ger Oakford, wrth bapur newydd y Daily Mirror bod “yr anifail wedi ei weld ers i bobol honni ei fod o wedi cael ei saethu yn Rackenford”.
“Mae fy adeiladwr i, sy’n byw pum milltir i ffwrdd ar Exmoor, yn dweud bod y carw yn ei ardd gefn yr wythnos diwethaf.”
Ond dywedodd Johnny Kingdom, y cyflwynydd teledu, wrth bapur newydd y Telegraph ei fod o’n “cant y cant” siŵr nad ydi’r Emperor ar dir y byw.
“Rydw i allan bob dydd yn gwylio’r ceirw a dydw i heb ei weld o ers amser hir felly mae’n siwr o fod wedi marw.
“Dwi’n credu bod y bobol sy’n honni eu bod nhw wedi ei weld o wedi drysu gyda charw mawr arall.”