Mae pennaeth gwasanaethau cudd-wybodaeth M16 wedi camu o’r cysgodion er mwyn rhybuddio bod cyfrinachedd yn hollbwysig er mwyn amddiffyn Ynysoedd Prydain.
Dyma’r tro cyntaf i bennaeth MI6 draddodi araith yn gyhoeddus. Dywedodd Syr John Sawers ei fod o’n derbyn adroddiadau ynglŷn â therfysgwyr sydd eisiau “anafu a lladd” Prydeinwyr bob dydd.
Dywedodd y byddai’n rhaid i’r cyfryngau a phobol Prydain barchu bod angen i MI6 gadw cyfrinachau os ydyn nhw am warchod y wlad.
“Dyw cyfrinachedd ddim yn air budr. Dyw cyfrinachedd ddim yn golygu ein bod ni’n ceisio cuddio rhywbeth amheus o olwg y cyhoedd,” meddai.
“Mae cyfrinachedd yn rhan hollbwysig o gadw Prydain yn saff.”
Dywedodd John Sawers ei fod o’n sicr nad oedd gan swyddogion MI6 “unrhyw beth o gwbwl” i’w wneud gydag arteithio.
Ond dywedodd bod rhaid i’r gwasanaeth weithredu yn y byd go iawn, a bod angen cydweithio gydag asiantaethau o wledydd eraill nad oedd yn “gyfeillgar a democrataidd” bob tro.