Mae’r sylwebydd gwleidyddol Simon Brooks wedi galw ar y Cymry Cymraeg i “ddangos ochr” os ydyn nhw am warchod dyfodol darlledu drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mewn darn barn yng nghylchgrawn Golwg yr wythnos hon, mae’n dweud mai “y penderfyniad i gael gwared ag annibyniaeth S4C fel corff darlledu ydi’r datganiad newyddion mwyaf syfrdanol annisgwyl imi ei glywed yn fy myw”.
“Mae’r propaganda sydd wedi bod yn cael ei ledaenu ddydd a nos yn ‘anenwadol gan y BBC ar donfedd yr ymerodraeth’, chwedl Saunders Lewis, hefyd wedi fy ngadael yn gegrwth,” meddai.
Mae’n ysgrifennu bod “S4C am golli ei hannibyniaeth gorfforaethol, reolaethol a golygyddol i ryw erthyl o gorff fydd yn cynnwys cynrychiolwyr o’r BBC a’r hen S4C”.
“Y model sy’n cael ei grybwyll gan newyddiadurwyr y BBC ydi’r gwasanaeth teledu Gaeleg ei iaith, BBC Alba,” meddai.
“Cyllideb gyfredol BBC Alba yw £14 miliwn. Er na ddisgwyliwn i wariant ar deledu Cymraeg syrthio mor isel â hynny, mae’n amlwg fod chwalfa fawr yn wynebu darlledu trwy gyfrwng y Gymraeg yng Nghymru.”
Er ei fod o’n dweud ei fod o wedi ei “siomi gan beth o arlwy” S4C dros y blynyddoedd diwethaf, “ein dyletswydd yn awr yw amddiffyn y Sianel”.
“Ie, gyda’i holl wendidau, ffaeleddau a brychau, mawr a mân, mae’n rhaid amddiffyn S4C yn erbyn haerllugrwydd llywodraeth sy’n hidio dim am ein diwylliant, ac yn erbyn y powergrab imperialaidd a chywilyddus hwn gan y BBC yn Llundain,” meddai.
Darllenwch weddill y darn barn yng nghylchgrawn Golwg, 28 Hydref