Mae arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan wedi condemnio’r oedi tros gael carchar i ogledd Cymru.

Ar ôl gofyn cwestiwn yn Nhŷ’r Cyffredin, mae Elfyn Llwyd yn dweud bod y Llywodraeth yn ystyried eto gan edrych ar niferoedd carcharorion a’r llefydd sydd ar gael.

Ond roedd AS Dwyfor Meirionnydd yn mynnu nad mater o lefydd yn unig yw’r ymgyrch yn y Gogledd.

“Mae’n fater o bryder, fwy na blwyddyn wedi canslo’r carchar i ogledd Cymru yng Nghaernarfon, nad yw Llywodraeth Llundain yn dal i allu cadarnhau a fydd carchar yn cael ei godi yng ngogledd Cymru ai peidio,” meddai Elfyn Llwyd.

‘Symud ymhell’

Mae’n dadlau bod gogledd Cymru yn ardal ddaearyddol eang sydd heb garchar a bod carcharorion yn cael eu symud i ogledd-orllewin Lloegr, “ymhell oddi wrth eu teuluoedd a’u cymunedau.”

Mae hynny, meddai, yn ei gwneud yn anodd iddyn nhw setlo’n ôl yn eu cymunedau ac yn ei gwneud hi’n fwy tebyg y byddan nhw’n torri’r gyfraith eto.

“Dw i’n poeni fod Llywodraeth San Steffan yn oedi eto fyth, a bod y cynlluniau i greu’r carchar yn llithro i ffwrdd.”

Llun: Elfyn Llwyd