Mae rhai o wrandawyr Radio Cymru wedi cysylltu a’r orsaf i gwyno nad yw Eifion Jones yn darlledu mwyach.
Dydd Iau diwethaf cyhoeddodd y cyflwynydd ei fod yn gadael ar ôl 15 mlynedd er mwyn troi at brosiectau eraill.
Dyw’r BBC ddim yn fodlon ymateb i adroddiadau bod aelod o’u staff ym Mangor wedi cwyno fod Eifion ‘Jonsi’ Jones wedi gwneud sylw rhywiol wrthi hi.
“Dw i mor flin – maen nhw wedi gadael i’r trysor fynd. Dw i ddim yn gwybod os fedra’i wrando ar Radio Cymru ddim mwy,” meddai’r arlunydd Karen Jones o’r Waunfawr ger Caernarfon sydd wedi sgrifennu at ddau o olygyddion Radio Cymru, Owain Arfon Williams ac Irfon Jones yn mynegi ei siom.
Gan mai Saesneg yw iaith yr aelwyd, mae Karen Jones yn rhoi’r diolch i Jonsi am ei sbarduno i wneud mwy o ddefnydd o’r Gymraeg.
“Mae Jonsi yn gadael i bobol siarad yr iaith fel y mae hi ar y stryd – i bobol gyffredin mae o’n grêt. Mae safon yr iaith yn gyffredinol yn warthus – ydan ni i gyd yn defnyddio geiriau Saesneg.
“Dim ond llond llaw o academics sy’n sgrifennu a siarad Cymraeg cywir. Ydach chi’n lwcus yng Nghaernarfon os clywch chi rywun yn dweud brawddeg heb regi.”
Mae Karen Jones yn amau mai’r “miri iaith yma” sy’n gyfrifol am ymadawiad Jonsi. “Mae’r purists eisio tynhau pethau’ ond wrth dynhau mi wneith pobol droi eu cefnau.”
Darllenwch weddill y stori yng nghylchgrawn Golwg, 28 Hydref