Fe gafodd 15 o bobol ifanc eu saethu mewn ymosodiad gan ddynion arfog ym Mecsico – y trydydd ymosodiad o’i fath o fewn wythnos.

Rhwng y tri, mae 42 o bobol wedi cael eu lladd, a llawer ohonyn nhw’n bobol ifanc a oedd yn ceisio torri’n rhydd o ddefnyddio cyffuriau.

Roedd yr ymosodiad diweddara’ yn ninas Tepic ar lannau’r Môr Tawel, pan ymosododd saethwyr ar orsaf glanhau ceir.

Ychydig ddyddiau ynghynt, fe gafodd 14 o bobol ifanc eu lladd mewn parti pen-blwydd yn Ciudad Juarez ac 13 mewn canolfan adfer i gaethion cyffuriau yn Tijuana.

Dyw’r awdurdodau ddim yn credu bod cysylltiad rhwng y tri ymosodiad ond maen nhw’n amau mai gangiau sy’n gyfrifol a bod cysylltiad gyda’r farchnad gyffuriau.

Llun: Cyffuriau wedi’u cipio ym Mecsico (Cyhoeddus)