Ceisio cael llais unedig am ddyfodol S4C yw nod cyfarfod arbennig sy’n caelei drefnu gan y Gweinidog Treftadaeth, Alun Ffred Jones.
Fe fydd y fforwm yn cwrdd am y tro cyntaf ddydd Mercher nesaf ac yn ystyried sut y gall y sianel ymdopi gyda thoriadau ariannol sylweddol ac i ystyried a ddylai gael ei thynnu o dan adain y BBC.
“Mae dwy agwedd greiddiol i’r ddadl; sut i sicrhau annibyniaeth S4C ar gyfer y dyfodol wedi iddi gael ei thraflyncu gan y BBC,” meddai wrth gylchgrawn Golwg.
“Mae’n bryder gwirioneddol yng Nghymru y gall un corff fod yn dylanwadu ar bolisi comisiynu rhaglenni Cymraeg yng Nghymru.
“Hyd yn oed os yw’r BBC yn llawn o angylion, dydy hynny ddim yn sefyllfa iach. Mae sicrhau annibyniaeth yn bwysig.
“Yr ail fater yw sicrhau dyfodol trefniant cyllido S4C. Dydw i ddim yn glir yn fy meddwl sut mae hynny wedi cael ei adael…
“Mae Menna Richards (Rheolwr BBC Cymru) wedi bod yn deg iawn yn ei gosodiadau hi ond does neb yn amau na fydd tensiynau a ffraeo hyn yn oed. Rhaid cael trefniant parhaol i’r dyfodol.”
‘Pinsiaid o halen’
Er bod y Gweinidogion yn San Steffan yn addo bod cyllideb ac annibyniaeth S4C yn ddiogel, derbyn eu geiriau gyda phinsiaid o halen mae Alun Ffred Jones.
“Cafodd addewidion eu gwneud gan ddau ymgeisydd Ceidwadol sydd bellach yn Aelodau bod arian S4C yn gwbwl ddiogel, cafodd Cymdeithas yr Iaith ebost gan Nick Bourne [Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig] bod dim angen poeni am ddyfodol S4C.
“Mater i ni yng Nghymru ydy sicrhau eu bod yn cadw’r addewidion hynny i sicrhau dyfodol ac annibynniaeth i S4C.”
Darllenwch weddill y stori yng nghylchgrawn Golwg, 28 Hydref