Mae bron 350 o bobol bellach wedi eu lladd gan y ddau drychineb yn Indonesia ac fe ddaeth yn amlwg bod offer i rybuddio rhag tsunami wedi methu.

Mae o leia’ 311 o bobol wedi eu lladd gan y don anferth a achoswyd gan ddaeargryn o dan y môr ac mae cannoedd yn rhagor o bobol ar goll.

Fe ddaeth yn amlwg bod offer a osodwyd ym Môr India i rybuddio rhag tsunamis wedi methu – fwy na thebyg oherwydd diffyg cynnal a chadw.

Roedd wedi ei osod ar ôl y tsunami anferth yn union wedi’r Nadolig yn 2004 pan laddwyd degau o filoedd o bobol. Roedd Indonesia wedi diodde’ bryd hynny hefyd.

Yn ôl adroddiadau lleol, mae’r awyren gymorth gynta’ wedi cyrraedd yr ynysoedd anghysbell lle trawodd y don.

• Tuag 800 milltir i’r dwyrain, mae 30 o bobol wedi eu lladd gan losgfynydd, gan gynnwys un o’r arweinwyr cymunedol, a wrthododd adael oherwydd ei gyfrifoldeb i warchod ysbrydion mynydd Merapi.

Llun: Ail-adrodd hanes – pobol yn Indonesia’n aros am gymorth wedi tsunami 2004 (Cyhoeddus)