Mae un o brif undebau’r gwasanaethau cyhoeddus yn cyhuddo cyngor Llafur yng Nghymru o fygwth “cloi allan” 10,000 o weithwyr.

Ddoe, fe gerddodd swyddogion undeb y GMB allan o gyfarfod gyda chyfarwyddwr personél Cyngor Rhondda Cynon Taf.

Maen nhw’n dweud ei fod wedi cyhoeddi y byddai’r holl weithwyr yn cael eu diswyddo ac yna’u hail-gyflogi ar delerau ac amodau salach.

Yn ôl yr undeb, dydyn nhw ddim yn fodlon trafod toriadau yng ngwario’r Cyngor nes y bydd y bygythiad wedi ei ddileu.

‘Cwbl annerbyniol’ meddai’r GMB

Mae’r GMB yn dweud bod bygythiadau tebyg wedi eu gwneud gan gynghorau yn Lloegr ond mai dyma’r tro cynta’ i gyngor Llafur weithredu fel hyn.

“Mae’n gwbl annerbyniol,” meddai un o swyddogion y GMB, Gareth Morgan. “Mae fel dal gwn wedi’i lwytho at bennau pobol a’u gorfodi i dderbyn newid er gwaeth neu golli eu swyddi heb unrhyw drafod.”

Mae’r Cyngor, sy’n cynrychioli mwy na 233,000 o bobol, yn wynebu toriadau o tua £20 miliwn bob blwyddyn am y tair blynedd nesa’.

Plaid Cymru’n cymryd cyfle i ymosod

Mae Plaid Cymru wedi bachu ar y cyfle i gondemnio Llafur gyda’r AC Leanne Wood ac arweinydd cyngor cyfagos Caerffili yn beirniadu’r datblygiad.

Yn ôl Lindsay Whittle, roedd y Cyngor yn rhoi “cyllell yng nghefn” y gweithwyr. “Fe fydd rhaid i bawb ohonon ni wneud penderfyniadau anodd, ond dyw hynny ddim yn esgus tros sathru ar y staff,” meddai.

“Mae’r arweinwyr Llafur ar y Cyngor wedi sicrhau bod yr undebau wedi eu cau allan o unrhyw drafodaethau ystyriol am ddyfodol y staff,” meddai Leanne Wood.

Llun: Rhan o dudalen flaen gwefan y cyngor