Mae disgwyl y bydd Prif Weinidog Prydain yn gorfod derbyn cynnydd o fwy na £400 miliwn yng nghyfraniad y Deyrnas Unedig i’r Undeb Ewropeaidd.

Ond fe fu David Cameron yn ffonio rhai o’r arweinwyr pwysica’ yn ystod y nos neithiwr i geisio rhwystro cynnydd mwy na hynny. Roed d y rheiny’n cynnwys Canghellor yr Almaen, Angela Merkel, ac Arlywydd Ffrainc, Nicolas Sarkozy.

Er nad yw ar yr agenda swyddogol, fe fydd y gyllideb yn cael ei thrafod mewn cyfarfodydd ymylol yn y Gynhadledd Ewropeaidd – y gynta’ i David Cameron ers dod yn Brif Weinidog.

Fe fydd diddordeb mawr i weld pa mor bell y bydd yn fodlon mynd i wrthwynebu datblygiadau Ewropeaidd wrth i’r Almaen a Ffrainc geisio newid un o’r cytundebau.

‘Dim dewis’

Er ei fod wedi galw am rewi cyllideb yr Undeb, neu hyd yn oed am doriad, mae’r papurau’n dweud nad oes ganddo unrhyw ddewis ond derbyn cynnydd o 2.9%.

Fed fyddai hynny’n golygu cynnydd o £435 miliwn yng nghyfraniad gwledydd Prydain – mae’r Telegraph yn dyfynnu swyddog Llywodraeth yn dweud, “does gyda ni ddim dewis”.

Fe fyddai unrhyw gynnydd yn sicr o wylltio rhai ASau ac ASau Ewropeaidd o blith y Ceidwadwyr ac mae Llafur hefyd wedi condemnio’r Llywodraeth.

“Maen nhw’n siarad yn galed ond dydyn nhw ddim wedi cyflawni dim,” meddai AS Caerffili, Wayne David, llefarydd y blaid ar Ewrop.

Roedd Llafur wedi gwrthwynebu’r cynnydd pan oedden nhw mewn grym, meddai wrth y BBC, ac roedd ASau Ewropeaidd y blaid hefyd wedi pleidleisio yn erbyn.

Llun: David Cameron (Cyhoeddus)