Mae’r Rhyngrwyd yn cyfrannu £100 biliwn ac economi gwledydd Prydain, yn ôl adroddiad newydd.

Ond mae Cymru tua’r gwaelod o ran adnoddau a defnydd o’r dechnoleg newydd ac o ran nifer y busnesau sy’n ei defnyddio.

O holl ranbarthau economaidd gwledydd Prydain, mae Cymru’n ail o’r gwaelod ar yr holl dablau – dim ond Gogledd Iwerddon sy’n gwneud yn waeth.

Sgôr Cymru

Mae awduron yr adroddiad, yr ymgynghorwyr Boston Consulting Group, wedi creu mesur o ddefnydd o’r We, yn cynnwys safon yr adnoddau, gwario ar y dechnoleg a lefel yr ymwneud â hi.

Mae’r Deyrnas Unedig yn chweched o brif wladwriaethau’r byd – uwchben yr Unol Daleithiau a’r Almaen, ond y tu ôl i’r rhai ar y brig, Denmarc, De Korea a Japan.

Ond tra bod sgôr y Deyrnas Unedig yn 128, a Llundain yn 156, dim ond 107 yw sgôr Cymru. Ac mae’n gwneud yr un mor ddrwg o ran defnydd busnesau.

Yn ôl yr arolwg, mae chwarter o fusnesau Cymru heb wefannau a dim ond 58% sy’n gwneud defnydd helaeth o’r Rhyngrwyd.

Er hynny, mae ardaloedd gwledig eraill, fel yr Alban a Swydd Henffordd, yn sgorio’n llawer gwell gyda busnesau yn yr Alban yn arbennig yn ffynnu trwy’r dechnoleg newydd.

Rhagor o fanylion

• Mae’r £100 biliwn sy’n cael ei gyfrannu gan y Rhyngrwyd yn 7.2% o holl gynnyrch economaidd gwledydd Prydain.

• Mae gwledydd Prydain yn allforio mwy nag y mae’n ei fewnforio trwy’r Rhyngrwyd – £2.80 o allforio am bob £1 o fewnforio.

• Roedd 60% o’r busnes o ganlyniad i siopa ar y We neu brynu’r offer ac roedd 31 miliwn o bobol wedi prynu nwyddau a gwyliau ar y We mewn blwyddyn.

• Yn ôl yr adroddiad, mae’r dechnoleg yn trawsnewid meysydd fel teithio, yswiriant, ffasiwn a’r cyfryngau.

Llun: Y logo ar flaen yr adroddiad