Mae’r Gweilch wedi cadarnhau eu bod nhw wedi dod i gytundeb gyda chlwb Saracens ynglŷn â rhyddhau Gavin Henson.

Roedd gan y chwaraewr rhyngwladol, sy’n ymddangos ar gyfres Strictly Come Dancing ar hyn o bryd,
gytundeb gyda’r Gweilch tan fis Mai.

Ond cyhoeddodd y Gweilch ar eu gwefan heddiw eu bod nhw wedi penderfynu ryddhau Gavin Henson, er nad oedden nhw’n gwbwl fodlon.

Does dim manylion eto ynglŷn â’r cytundeb rhwng y Gweilch a Saracens.

Mewn datganiad dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr y Gweilch, Mike Cuddy, ei fod o’n “siomedig” bod Gavin Henson wedi penderfynu ymadael â’r clwb.

“Er lles Gavin yn bersonol, a rygbi Cymru yn gyffredinol, rydym ni wedi penderfynu cytuno i’w gais i’w ryddhau o’i gytundeb yn syth, gan ganiatáu iddo chwarae gyda Saracens,” meddai.

“Rydw i wedi fy siomi a’n teimlo’n rhwystredig, ar ôl bod eisiau gweld Gavin Henson yn ôl yng nghrys y Gweilch.

“Mae pob cefnogwr rygbi yn edrych ymlaen at weld Gavin yn ôl ar y cae rygbi, ac rydym ni wir yn gobeithio y bydd o’n ôl yng nghrys coch Cymru cyn bo hir.”