Mae yna bryderon y gallai ymosodwr Caerdydd, Jay Bothroyd, fethu tair gêm nesaf yr Adar Glas, yn dilyn honiad ei fod wedi gwneud tacl beryglus yn ystod y fuddugoliaeth yn erbyn Leeds Utd nos Lun.

Mae rheolwr Leeds Utd, Simon Grayson wedi cyhuddo Bothroyd o dacl beryglus ar yr Archentwr, Luciano Becchio. Ni chafodd y dacl ei chosbi gan y dyfarnwr, ond fe gafodd sylw sylweddol gan y cyfryngau.

Fe fydd Cymdeithas Bêl Droed Cymru yn ymchwilio i’r mater, a gallai Bothroyd wynebu gwaharddiad o hyd at dair gêm pe bai’n euog o unrhyw drosedd.

Fe fyddai hynny’n golygu y byddai’r ymosodwr, sydd wedi sgorio 11 gôl mewn 13 gêm y tymor yma, yn colli’r gemau pwysig yn erbyn Norwich, Reading a’r ddarbi leol yn erbyn Abertawe.

Pan gafodd Bothroyd ei gyfweld ar ôl y gêm fe wrthododd yr awgrym y dylai fod wedi cael ei gosbi am y dacl.

“Roeddwn i’n ceisio ennill y bêl, a ddylwn i ddim cael fy anfon o’r maes am hynny” meddai Bothroyd.