Mae Jonathan Davies yn amheuaeth ar gyfer gêm agoriadol cyfres yr hydref yn erbyn Awstralia yn Stadiwm y Mileniwm fis nesaf.

Mae canolwr y Scarlets yn ymuno â Lee Byrne, Leigh Halfpenny a Ryan Jones ar restr anafiadau Cymru cyn herio’r Wallabies.

Roedd disgwyl i Davies gael ei gynnwys yn y pymtheg cyntaf yn erbyn Awstralia ar 6 Tachwedd, ond fe ddioddefodd anaf wrth ymarfer gyda’r garfan ryngwladol y prynhawn ‘ma.

Doedd Davies heb chwarae ers 24 Medi ac mae’r hen anaf i’w bigwrn yn ei boeni unwaith eto.

Roedd disgwyl iddo chwarae i’r Scarlets yn erbyn Glasgow ddydd Sadwrn er mwyn iddo gael amser ar y cae cyn i gyfres yr hydref ddechrau.

“Mae hyn yn cyfyngu ychydig ar yr opsiynau sydd gennym ni. Ond mae’n rhaid i ni symud ‘mlaen,” meddai Warren Gatland.

James Hook, Tom Shanklin ac Andrew Bishop yw’r unig ganolwyr holliach sydd gan Gymru yn y garfan.

Mae Gatland yn ystyried defnyddio Hook fel cefnwr eto, ac fe fyddai hynny’n gadael Shanklin a Bishop i greu partneriaeth newydd yn y canol.