Mae Llanelli wedi achub mantais dros Aberystwyth yn rownd gyn derfynol Cwpan Loosemoores, ar ôl sicrhau buddugoliaeth oddi cartref yng nghymal cyntaf y gystadleuaeth.
Fe sgoriodd Stuart Jones y gôl holl bwysig gyda pheniad oddi ar gic gornel Chris Venables wedi ychydig dros awr o chwarae yng Nghoedlan y Parc.
Roedd hi’n gêm ddigon agored i ddechrau, wrth i’r ddau dîm ymosod ar bob cyfle, ond Aberystwyth gafodd y gorau o’r cyfleoedd cynnar a bu’n rhaid i olwr Llanelli, Ashley Morris, arbed ergyd dda gan Ricky Evans.
Fe gafodd cic rydd gan Evans ei chlirio oddi ar y llinell cyn i ymdrech Conall Murtagh hedfan fodfeddi dros y trawst.
Ond ‘nôl ddaeth yr ymwelwyr wrth i olwr Aberystwyth, Stephen Cann arbed peniad gan Wyn Thomas a fyddai wedi mynd i gefn y rhwyd fel arall.
Fe arbedodd Cann yn wych unwaith eto er mwyn atal cic rydd Thomas rhag mynd i gornel uchaf y gôl.
Ond fe lwyddodd Jones i guro Cann er mwyn sgorio unig gôl y gêm a sicrhau bod gan Lanelli fantais bwysig pan fydd y timau’n wynebu ei gilydd ym Mharc Stebonheath.