Cafwyd dyn yn ddieuog heddiw o lofruddio ei wraig ar ôl noson feddw.

Penderfynodd rheithgor yn Llys y Goron Caerdydd nad oedd Daniel Lipski, 28, yn euog o lofruddio ei wraig Aleksandra.

Penderfynodd y rheithgor nad oedd yn euog o ddynladdiad chwaith.

Y cefndir

Daethpwyd o hyd i Aleksandra, 27, yn farw mewn pwll o waed ym mis Mai 2008 yn y fflat yr oedd y pâr priod yn ei rannu yng Nghasnewydd.

Roedd hi wedi ei thrywanu unwaith yn ei brest yn agos at ei chalon. Daeth yr heddlu o hyd i’w modrwy briodas o dan y bwrdd.

Roedd y pâr, a briododd ym mis Rhagfyr 2007, ddeufis a hanner ar ôl cyfarfod, wedi bod allan gyda chwaer Aleksandra, Arga Kaczmarska, a’i phartner hi.

Ffraeo

Clywodd y llys bod y ddwy chwaer wedi ffraeo â’i gilydd y noson honno.

Roedd Daniel Lipski, a symudodd i Brydain o Wlad Pwyl yn 2000, wedi gweld ei wraig yn gwneud ystum fel pe bai’n trywanu gyda chyllell yn ei llaw dde, clywodd y rheithgor.

Dywedodd yr erlyniad bod y diffynnydd wedi dweud wrth ffrind ychydig oriau ynghynt ei fod wedi cael digon ar ei wraig ac eisiau ei gadael.

Ond dywedodd Daniel Lipski wrth y rheithgor eu bod nhw wedi bod yn briod ers pum mis ac yn caru ei gilydd.

Llun: Llys y Goron Caerdydd