Mae arolwg barn newydd wedi datgelu bod 75% o bobol Cymru eisiau gwarchod y Gwasanaeth Iechyd rhag unrhyw doriadau gwario.

Fe ofynnodd ITV Wales a YouGov i bobol ddewis tri maes i’w gwarchod rhag toriadau ariannol, ac iechyd ddaeth ar y brig.

Roedd hanner hefyd eisiau gwarchod addysg tra bod 23% wedi dewis busnesau, gwaith, hyfforddiant a thrafnidiaeth.

“Fe fydd y canlyniad yn rhoi fwy o bwysau ar Lywodraeth y Cynulliad, sydd hyd yn hyn wedi gwrthod ymrwymo i warchod y cyllid iechyd o’r toriadau,” meddai Andrew RT Davies, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad.

“R’yn ni’n credu bod angen gwarchod gwariant ar iechyd yng Nghymru, fel mae David Cameron wedi sicrhau yn Lloegr.”

Cynnydd i Blaid Cymru a phwerau newydd

Mae’r arolwg barn ddiweddaraf hefyd wedi datgelu bod yna gynnydd yn y gefnogaeth i roi mwy o bwerau i’r Cynulliad.

Fe ddywedodd 52% o’r rhai a holwyd y bydden nhw’n pleidleisio o blaid cynyddu pwerau’r Cynulliad gyda 29% yn pleidleisio yn erbyn.

Dyma’r canran uchaf o blaid cynyddu’r pwerau yn arolwg barn ITV Wales/Yougov ers mis Mehefin gan awgrymu y byddai’r ymgyrch Ie yn ennill refferendwm.

Mae Plaid Cymru hefyd wedi gweld cynnydd yn ei chefnogaeth gyda 21% o’r rhai a holwyd yn dweud y bydden nhw’n pleidleisio dros y blaid – cynnydd o 2% ar arolwg mis Medi.

Cefnogaeth y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Ceidwadwyr sydd wedi cwympo – y Ceidwadwyr i lawr 3 i 19 a’r Democratiaid i Lawr 2 bwynt i 9.