Fe fydd y Swyddfa Bost yn derbyn £1.3 biliwn o arian ychwanegol dros y pedair blynedd nesaf, yn ôl cyhoeddiad gan yr Ysgrifennydd Busnes heddiw.

Dywedodd Vince Cable wrth Dŷ’r Cyffredin y byddai’r arian yn cael ei ddefnyddio i ddiwygio’r rhwydwaith a sicrhau ei ddyfodol yn y tymor hir.

Roedd yn honni y byddai’n gwneud iawn am flynyddoedd o esgeulustod ac fe roddodd addewid na fyddai yna raglen o gau swyddfeydd Post.

“Fydd yna ddim cynllun i gau dan y Llywodraeth hon ac fe fydd y Swyddfa Bost yn gallu buddsoddi, gwella ei hoffer, ac ennill ffyrdd cyllido newydd.”

Preifateiddio’r Post Brenhinol

Amddiffynnodd yr Ysgrifennydd Busnes fwriad y Llywodraeth i breifateiddio’r Post Brenhinol, gyda 90% yn mynd i brynwyr o’r tu allan ac o leia’ 10% o’r cyfrannau yn nwylo’r gweithwyr.

Roedd yn dadlau bod angen wynebu’r problemau sy’n codi oherwydd cystadleuaeth a’r cwymp yn nifer y llythyron sy’n cael eu danfon.

Y cynllun trosglwyddo cyfrannau i weithwyr fyddai’r mwyaf o’i fath – yn fwy na British Telecom, British Gas a British Airways, meddai.

Cyhoeddodd y Llywodraeth y bydden nhw hefyd yn mynd i’r afael â diffygion pensiynau’r Post Brenhinol.

“Ar hyn o bryd, y Post Brenhinol sydd â’r diffyg pensiwn gwaethaf o unrhyw gwmni yn y Deyrnas Unedig,” meddai’r Ysgrifennydd Busnes.

Rhannu’r cwmnïau

Fe fydd y Mesur yn caniatáu rhannu’r Post Brenhinol oddi wrth y Swyddfa Bost, er mwyn ei werthu i brynwyr preifat. Ond fyddai hynny ddim o reidrwydd yn golygu gwahanu llwyr, meddai.

“Fe fydd y Post Brenhinol a’r Swyddfa Bost yn parhau i weithio’n agos gyda’i gilydd – mae angen y ddau gwmni ar ei gilydd.”

Llun: (Trwydded GNU)