Mae asgellwr Cymru, Shane Williams yn credu y bydd Gavin Henson yn dychwelyd i chwarae i Gymru yn y dyfodol.
Dyw Henson heb chwarae rygbi ers 18 mis ac ar hyn o bryd mae o’n cystadlu ar raglen y BBC Strictly Come Dancing.
Y tro diwethaf i Henson chwarae i Gymru oedd yn erbyn Iwerddon ym mis Mawrth 2009, ac fe fydd yn absennol eto ar gyfer cyfres yr hydref.
Ond mae o wedi dweud ei fod o’n awyddus i aildanio ei yrfa rygbi ac mae yna adroddiadau ei fod o ar fin arwyddo gyda’r Saraseniaid yn Watford.
Mae Shane Williams yn gobeithio y bydd Henson yn dychwelyd i chwarae gyda’r Gweilch pan fydd ei gyfnod ar y rhaglen ddawnsio yn dod i ben.
“Fe fydden ni’n hoffi ei weld ‘nôl ar y cae gyda’r Gweilch a Chymru – mae ganddo gymaint o dalent,” meddai Shane Williams.
“Rwy’n gobeithio y bydd e’n dychwelyd yn y pen draw, boed hynny gyda’r Saraseniaid neu gyda ni.
“Rwy’n siŵr y bydd e’n chwarae i Gymru eto. Mae’n cadw ei hun yn ffit ac mae’r math o chwaraewr fydd yn ôl ar ei orau ar ôl cwpwl o gemau.”
‘Chwaraewr ardderchog’
Mae hyfforddwr cynorthwyol Cymru, Neil Jenkins hefyd wedi dweud bod y drws yn agored i Henson pe bai’n penderfynu dechrau chwarae eto.
Mae disgwyl i’r Saraseniaid gyhoeddi ei fod o wedi arwyddo erbyn diwedd yr wythnos, ond mae’n rhaid iddynt ddod i gytundeb gyda’r Gweilch.
Dyw ei gytundeb gyda’r rhanbarth Cymreig ddim yn dod i ben tan fis Mai nesaf ac mae disgwyl y bydden nhw eisiau ryw fath o ffi i’w ryddhau.
“Mae Gav yn chwaraewr ardderchog ac rwy’n dymuno’n dda iddo. R’yn ni eisiau ein chwaraewyr gorau ar y cae ac mae Gav yn sicr yn un ohonyn nhw,” meddai Jenkins.