Mae rheolwr Abertawe, Brendan Rodgers wedi beirniadu penderfyniad y dyfarnwr i beidio â chaniatáu gôl Craig Beattie ar ôl i’r Elyrch golli 2-0 i Wigan y Stadiwm DW.
Roedd Abertawe wedi rheoli’r chwarae yn yr hanner cyntaf ac fe alle’n nhw fod wedi mynd ar y blaen pan dorrodd Cedric van der Gun drwy amddiffyn Wigan.
Fe benderfynodd van der Gun basio’r bêl i Beattie yn hytrach na saethu, ac er i’r Albanwr daro’r bêl i gefn y rhwyd, fe benderfynodd y dyfarnwr ei fod yn camsefyll.
“Os ydach chi’n gwylio eto, fe fyddech chi’n gweld y dylai’r gôl fod wedi cael ei chaniatáu,” meddai Rodgers.
“Rwy’n siomedig gyda’r dyfarnwr a’r llumanwr. Ond rwy’n falch iawn o’r tîm. R’yn ni wedi chwarae yn erbyn tîm o’r Uwch Gynghrair a dangos ein bod ni’n gallu dal ein tir.”
Yn dilyn hanner cyntaf ddi-sgôr, fe aeth y tîm cartref ar y blaen wedi chwe munud o’r ail hanner.
Sgoriodd yr Archentwr, Mauro Boselli, ei gôl gyntaf i Wigan ers ymuno am £6m dros yr haf.
Sicrhawyd y fuddugoliaeth pan lwyddodd Ben Watson gyda chic o’r smotyn yn ystod yr amser ychwanegol ar ôl i Charles N’Zogbia gael ei faglu yn y cwrt cosbi.
Roedd cyn rheolwr Abertawe, Roberto Martinez yn hapus iawn bod ei dîm wedi sicrhau’r fuddugoliaeth a hefyd yn falch iawn o berfformiad ei gyn glwb.
“Roedd hi’n gêm wych, ac rwy’n falch iawn wrth wylio chwaraewyr sydd wedi datblygu wrth chwarae yng Nghynghrair Un ac wedyn y Bencampwriaeth a’u bod nhw wedyn yn gallu cystadlu yn yr Uwch Gynghrair.”