Seintiau Newydd 9 – 0 Bangor
Mae’r Seintiau Newydd mwy neu lai wedi sicrhau eu lle yn rownd derfynol Cwpan Loosemoores ar ôl chwalu Bangor 9-0 yng nghymal cyntaf rownd cyn derfynol y gystadleuaeth yn Park Hall.
Roedd y ddau dîm wedi penderfynu gadael sawl aelod blaenllaw o’u timau cyntaf allan.
Dim ond dau chwaraewr ddechreuodd yn erbyn Castell-nedd y penwythnos diwethaf oedd yn nhîm Bangor.
Fe gafodd yr ymwelwyr y gorau ohoni yn y munudau cyntaf, wrth i ymdrech John Owen daro’r postyn.
Ond fe aeth y Seintiau Newydd ymlaen i reoli’r gêm ar ôl i Jamie Wood sgorio gôl gyntaf y tîm cartref wedi 37 munud.
Fe ddyblodd Wood fantais y Seintiau Newydd funud yn ddiweddarach cyn i Aeron Edwards ychwanegu’r drydedd cyn yr egwyl.
Roedd tîm Mike Davies 5-0 ar y blaen wedi pedair munud o’r ail hanner, ar ôl i Matthew Berkeley ac yna Alex Darlington sgorio.
Fe sgoriodd Scott Ruscoe dwy gôl mewn deg munud – y cyntaf oddi ar groesiad Craig Williams a’r ail 20 llath o’r rhwyd.
Fe ychwanegodd Darlington wythfed gôl gyda deg munud yn weddill cyn i Wood sgorio ei drydedd o’r gêm er mwyn sicrhau buddugoliaeth fawr.