Mae cylchgrawn natur ryngwladol wedi dweud mai arfordir Sir Benfro yn un o’r prydferthaf y byd.

Mae glannau Sir Benfro wedi maeddu bron i gant o arfordiroedd eraill ar draws y byd er mwyn dod yn ail yn rhestr cymdeithas National Geographic.

Yn gydradd ail gyda Sir Benfro y mae Arfordir Tutukaka yn Seland Newydd. Penrhyn Avalon yn Newfoundland, Canada, ar frig y rhestr.

Mae’r 99 arfordir o bob cwr o’r byd yn cynnwys rhai yn Hawaii, Awstralia, Chile, Oman, Ynysoedd y Gwlff, Novascotia a’r Ariannin.

Twristiaeth yn cynnal treftadaeth

Roedd canmoliaeth fawr i natur gynaliadwy’r dwristiaeth yn Sir Benfro.

Mae yno “ddiwydiant twristiaeth aeddfed a sefydledig” meddai un o’r beirniaid, a bod hynny’n “cynnal, yn hytrach na dinistrio, y rhinweddau sy’n gwneud yr ardal hon mor unigryw”.

“Fe fydd llwybr arfordirol newydd Sir Benfro yn meddu ar rai o’r golygfeydd harddaf ym Mhrydain,” meddai un arall o’r beirniaid.

Hinsawdd oer yn fantais i Sir Benfro

Yn ôl Jonathan Tourtellot o’r gymdeithas National Geographic, mae hinsawdd oer o fantais i harddwch ardaloedd arfordirol, fel Sir Benfro.

“Mae llai o bwysau datblygu ar arfordiroedd mewn ardaloedd oerach,” meddai.

Ond ychwanegodd bod angen datblygiadau twristaidd cynaliadwy er mwyn cynnal harddwch yr arfordiroedd.

“Mae safon ein harfordiroedd yn dibynnu arnon ni yn y pendraw,” meddai. “Y ffordd ry’n ni’n eu defnyddio nhw a gofalu amdanyn nhw sy’n bwysig.”