Mae cwmnïau teledu annibynnol Cymru wedi cael e-bost yn dweud pa raglenni sy’n cael eu torri a pha rai sy’n para yn y flwyddyn nesa’.
Mae’n golygu y bydd arian rhaglenni’n cael ei dorri o tuag £8 miliwn yn ystod y flwyddyn nesa’, gyda rhai rhaglenni poblogaidd yn gorfod mynd.
Fe gafodd y neges ei anfon at yr holl gwmnïau ar ôl cyfarfod rhwng cynrychiolwyr y cwmnïau a chynrychiolwyr o S4C ddoe.
Yn y cyfarfod, fe gafodd y cynhyrchwyr glywed y byddai toriadau o 10% yn y gyllideb raglenni’r flwyddyn nesa’ ond na fyddai’r cwtogi’n digwydd yn gyfartal ym mhob man.
Mae S4C hefyd wedi datgelu heddiw y bydd 40 o’u staff yn colli eu swyddi dros y ddwy flynedd nesaf o ganlyniad i’r toriadau.
Tri rhan
Mae’r e-bost at y cwmniau teledu mewn tri rhan, yn sôn am raglenni a fydd yn dal i gael eu comisiynu yn y flwyddyn nesa’, am rai eraill lle mae angen trafod manylion ac arian neu rai y mae’r sianel yn awyddus i’w comisiynu. Mae’r trydydd rhan yn delio gyda rhai a fydd ar y ffordd y flwyddyn wedyn.
Yn ôl yr hyn y mae Golwg 360 yn ei ddeall, mae yna raglenni eraill a oedd yn cael eu cynllunio ond sydd heb fod ar y rhestr erbyn hyn. Y rheiny sy’n cael eu torri.
Fe ddywedodd un cynhyrchydd annibynnol wrth Golwg 360 ei bod rywfaint yn well na’r hyn yr oedden nhw wedi ei ddisgwyl ond y bydd rhai cynhyrchwyr wedi diodde’n waeth na’i gilydd.
Roedd rhai o’u rhaglenni nhw wedi eu hepgor o’r rhestr ond roedd angen trafod ymhellach cyn bod yn sicr o hynny.