Mae pôl piniwn gan ITV wedi datgelu bod y rhan fwyaf o bobol Cymru eisiau i wariant ar iechyd gael ei ddiogelu pan mae Llywodraeth y Cynulliad yn torri’n ôl ar wariant cyhoeddus.
Mae gweinidogion Llywodraeth y Cynulliad yn y broses o benderfynu sut y bydden nhw’n torri’n ôl ar ôl derbyn toriadau 7.5% yn eu cyllideb gan Lywodraeth San Steffan.
Bydd y Cynulliad yn datgelu eu cyllideb eu hunain ar 17 Tachwedd.
Yn ôl y pôl piniwn, oedd yn gofyn i bobol ddewis tri maes na ddylai wynebu toriadau gwario, roedd 75% wedi dewis iechyd, a 50% wedi dewis ysgolion.
Roedd 23% wedi dewis busnes, a 23% hefyd wedi dewis trafnidiaeth. Roedd 20% wedi dewis tai, 19% wedi dewis prosiectau i helpu’r tlawd, a 17% wedi dewis addysg uwch.
Roedd 16% wedi dewis gwella’r ffyrdd, 11% wedi dewis yr amgylchedd, a 9% wedi dewis ffermio a chefn gwlad.
Celf a chwaraeon oedd yn cael eu hystyried lleiaf pwysig, gyda dim ond 5% a 2% yn meddwl y dylen nhw gael osgoi’r fwyell.
Mwy yn cefnogi pleidlais ‘Ie’
Roedd y pôl hefyd yn awgrymu bod mwy o bobol yn cefnogi pleidlais ‘Ie’ yn y refferendwm ar fwy o bwerau i’r Cynulliad nag yn ystod y misoedd blaenorol.
Cododd nifer y bobol oedd yn cefnogi pleidlais ‘Ie’ i 52% ym mis Hydref, o’i gymharu â 49% ym mis Medi, tra bod cefnogaeth yr ymgyrch ‘Na’ wedi syrthio o 30% i 29%.
Roedd y pôl piniwn hefyd yn dangos bod y Blaid Lafur yn derbyn cefnogaeth 44% o’r wlad, yr un ffigwr a mis Medi.
Ond roedd Plaid Cymru wedi neidio dros ben y Blaid Geidwadol, gyda chefnogaeth y blaid gyntaf yn codi o 19% i 21% a chefnogaeth yr ail blaid yn syrthio o 22% i 19%.
Syrthiodd cefnogaeth y Democratiaid Rhyddfrydol unwaith eto, o 11% i 9%. Mae eu cefnogaeth wedi cwympo 11%, o 20%, ym mis Mai pan gynhaliwyd yr Etholiad Cyffredinol.