Oliver yw’r enw mwyaf poblogaidd ar hogiau ar draws Cymru a Lloegr am y tro cyntaf, gan ddwyn coron Jack sy’n syrthio i’r ail safle.

Jack oedd yr enw mwyaf poblogaidd ar hogiau ers 14 mlynedd cyn i Oliver godi i’r brig y flwyddyn diwethaf.

Mae’r enwau sydd wedi eu casglu gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cyfri enwau babanod a anwyd yn 2009.

Er iddo golli ei goron yn Lloegr, Jack oedd yr enw mwyaf poblogaidd ar hogiau yng Nghymru o hyd, gyda Dylan yn yr ail safle, ac Oliver yn drydydd.

Rhys, Dylan, Megan a Seren oedd yr unig enwau o darddiad Cymraeg yn y deg uchaf yng Nghymru.

Mohammed oedd yr enw mwyaf poblogaidd ar hogiau yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr.


Deg uchaf enwau hogiau yng Nghymru

Jack
Dylan
Oliver
Joshua
William
Ethan
Rhys
Harry
Alfie
Thomas

Deg uchaf enwau merched yng Nghymru

Olivia
Ruby
Seren
Chloe
Megan
Emily
Sophie
Jessica
Grace
Ella