Mae Iestyn Davies o Borthmadog wedi gwadu llofruddio Ffion Wyn Roberts, 22 oed, o’r dref, heddiw.
Ymddangosodd Iestyn Davies, 53 oed, o flaen y Barnwr D. Lloyd Jones yn Llys y Goron Caerdydd heddiw drwy linc fideo.
Mae disgwyl y bydd yr achos llys yn cael ei gynnal ym mis Mawrth y flwyddyn nesaf.
Y cefndir
Daethpwyd o hyd i gorff Ffion Wyn Roberts mewn camlas ar 10 Ebrill ar ôl iddi gael ei thagu a’i boddi.
Cafodd y ferch ei gweld am y tro olaf am tua 3.00am yn gadael tafarn Yr Union yn Nhremadog ar fore Sadwrn 10 Ebrill.
Darlledwyd rhaglen Crimewatch ar 15 Mehefin oedd yn cynnwys apêl am wybodaeth am ei llofruddiaeth.
Penderfynodd yr heddlu gyfeirio’r mater at Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu ar ôl marwolaeth Ffion Wyn Roberts ym Mhorthmadog ym mis Ebrill.
Mae’r comisiwn bellach wedi cadarnhau bod Ffion Wyn Roberts wedi cysylltu gyda Heddlu Gogledd Cymru cyn iddi gael ei lladd.