Peth hyll yw cenfigen. Ond rhaid cyfadde mod i braidd yn genfigennus o ohebwyr gwleidyddol San Steffan weithiau. Gyda’r adolygiad o wariant cyhoeddus, holl strach S4C annatganoledig a’r ffaith ei bod hi’n hanner tymor yn y Cynulliad yr wythnos hon, rwy wedi bod yn troi fy ngolygon at drafodaethau San Steffan yn amlach nag arfer yn ddiweddar. Un o’r dadleuon i fi wylio o Westminster Hall oedd hon ar S4C wedi ei threfnu gan Guto Bebb (Neu Gwto Bib fel y cyfeirir ato yn y clip). Mae’r ffordd mae Ed Vaizey, yr is-Ysgrifenydd Diwylliant yn mynegi ei hun yn herfeiddiol, a’i Saesneg mor goeth ac er cywilydd i fi rwy wrth fy modd yn clywed y crochlefain “hea hea” (sy fod yn “hear hear” ond rhyw uban y gair maen nhw ac mae’n sbort i’w glywed). Heddiw wedyn roedd cwestiynau’r Prif Weinidog. Waw. Mae David Cameron yn ddadleuwr heb ei ail. Beth bynnag ydych chi’n meddwl am y dyn, does dim gwadu ei ddawn i siarad yn gyhoeddus. Dyma’r sesiwn gyntaf o’i holi ers yr arolwg gwariant cyhoeddus ac roedd y siambr yn llawn i’r ymylon, gyda mwy na digon o hefru a “hea hea” yn digwydd i achosi i Mr Speaker i godi ar ei draed i’w tawelu nhw fwy nag unwaith. Mae’n debyg eu bod nhw’n bihafio ychydig fel plant ysgol sydd ddim yn cael eu ffordd eu hunain yn eu cecru a’u gweiddu a dyna pam mae’r Llywydd fan hyn yn roi taw ar unrhyw fath o heclo a chwyno mewn islais yn siambr y Cynulliad.
Peth arall sy’n brin yma yw’r areithio huawdl a’r iaith goeth. Heb orfod brwydro i ddweud eu dweud, dyw’n gwleidyddion ni ddim yn cael yr hyfforddiant i orfod bod yn huawdl, i orfod mynegi eu hunain mewn ffordd ddiddorol sy’n dal sylw’r siambr. Ac maen nhw byth a hefyd yn syllu ar eu cyfrifiaduron, yn trydar neu’n blogio neu’n pwy a wyr beth arall, felly’n llawer rhy brysur i dalu sylw i’r ddadl yn y siambr. Gallen nhw fod yn areithwyr gwell, heb fod yn heclwyr ond dyna ni, i wasanaethu pobol Cymru maen nhw yma, nid i fy nifyrru i!