Mae disgwyl i wisg wreiddiol Darth Vader werthu am hyd at £230,000 pan fydd yn cael ei gwerthu mewn ocsiwn yn Christie’s fis nesaf.

Cafodd y wisg, sy’n cynnwys y masg a’r helmed wreiddiol, ei chreu ar gyfer yr ail ffilm Star Wars – The Empire Strikes Back – yn 1980.

“Darth Vader yw un o’r cymeriadau mwyaf cyfarwydd yn hanes ffilm, diolch i’w wisg nodweddiadol,” meddai Neil Roberts, pennaeth adran diwylliant poblogaidd Christie’s.

“Does dim byd yn cymharu ag apêl fyd-eang ffilmiau Star Wars, a’r diddordeb sydd yn y ffilmiau ar draws y cenedlaethau.

“Mae Christie’s wedi gwerthu creiriau anhygoel o ffilmiau yn y gorffennol, gan gynnwys sliperi coch Dorothy o The Wizard Of Oz a gwisg Audrey Hepburn yn Breakfast At Tiffany’s.

“Ond rydw i’n credu mai gwisg Darth Vader yw’n gorau eto.”

Yr actor o Brydain, Dave Prowse oedd y tu mewn i wisg Darth Vader, ond yr actor o’r Unol Daleithiau, James Earl Jones, oedd yn darparu ei lais.

Fe fydd canran o elw’r gwerthiant yn cael ei roi i Cancer Research UK.