Mae hyfforddwr cynorthwyol Cymru, Neil Jenkins wedi dweud bod Matthew Rees yn llawn haeddu cael ei benodi’n gapten newydd Cymru.
Bydd capten y Scarlets yn olynu chwaraewr rheng ôl y Gweilch, Ryan Jones yn arweinydd y tîm rhyngwladol.
Mae cyn faswr Cymru yn credu bod gan Rees y gallu i arwain ei dîm ar y lefel rhyngwladol.
“Mae Matthew wedi datblygu’n chwaraewr ardderchog i Gymru a’r Llewod,” meddai Jenkins. “Mae’n dipyn o gamp iddo ac un sy’n gwbl haeddiannol.
“Os bydd Matthew yn parhau i chwarae fel y mae o wedi bod yn ei wneud eisoes, fe fydd yn iawn.”
Mae capten newydd Cymru wedi addo arwain o’r blaen a bod yn gapten uchel ei gloch.
“Mae’n mynd i gymryd rhai diwrnodau i mi sylweddoli beth sydd wedi digwydd,” meddai Rees.
“Rwy’n credu bod capteinio’r Scarlets wedi helpu i mi ddatblygu fel chwaraewr, ac rwy’n edrych ymlaen at ddechrau ar y gwaith.
“Y peth pwysicaf yw arwain o’r blaen, siarad digon ar y cae a dangos rheolaeth.”