Mae bachgen 16 oed wedi ymddangos o flaen llys wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth y ferch ysgol, Rebecca Aylward.

Daethpwyd o hyd i Rebecca Aylward, 15, o Faesteg, yn farw gydag anafiadau i’w phen mewn coedwig yn Abercynffig ger Pen-y-bont ar Ogwr ddydd Sul ac fe gafodd dau fachgen, un yn 16 oed a’r llall yn 15 oed, eu harestio’r noson honno.

Cafodd y llanc 16 oed ei gadw dan glo yn dilyn gwrandawiad byr yn Llys Ynadon Pen-y-bont ar Ogwr.

Fe gafodd y bachgen arall 15 oed ei ryddhau ddydd Mawrth heb gael ei gyhuddo, meddai Heddlu De Cymru.

‘Merch boblogaidd’

Roedd mam Rebecca, Sonia Oatley, wedi cysylltu gyda’r heddlu i ddweud ei bod hi ar goll ar ôl iddi fethu â dychwelyd i Faesteg nos Sadwrn.

Roedd wedi cael ei gweld ddiwetha’ tua 12.30pm dydd Sadwrn ar y ffordd i weld ffrindiau ym mhentre’ Sarn gerllaw.

Daethpwyd o hyd i’w chorff mewn ardal sy’n boblogaidd gyda phobol ifanc ar gyrion Abercynffig tua 9am dydd Sul.

Datganiad y teulu

Mewn datganiad, dywedodd teulu Rebecca Aylward bod ei brawd a’i chwaer iau wedi torri eu calonnau.

“Roedd teulu cyfan Rebecca, neu Becca, yn ei charu. Roedd pawb, gan gynnwys ei ewythrod, modrybedd, a’i chefndryd, yn ei charu.

“Fe fydden ni’n ei cholli hi, roedd hi’n ferch fach hapus, gyda phersonoliaeth allblyg a byrlymus.

“Roedd hi’n famol iawn tuag at ei brawd a’i chwaer iau, oedd yn ei haddoli hi – maen nhw wedi torri eu calonnau.

“Mae’r teulu cyfan wedi torri eu calonnau, ac eisiau heddwch i alaru.”