Mae Is-gadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cwyno i’r BBC gan ddweud bod rhaglen teledu ar ddyfodol S4C yn rhoi un ochr i’r stori yn unig.
Dywedodd Rhys Llwyd ei fod o wedi ei “siomi” na roddwyd cyfle i neb herio cyfarwyddwr y BBC, Menna Richards oedd yn awgrymu y byddai dod dan adain y BBC o gymorth i S4C.
Roedd yn cyfeirio at raglen Week In Week Out ar sianel BBC One neithiwr, oedd yn ymchwilio i’r stori “y tu ôl i’r llenni” yn S4C. Mae’n bosib gwylio’r rhaglen fan hyn.
O dan y trefniant newydd, fe fydd £76 miliwn o arian y drwydded deledu’n cael ei dynnu oddi ar y BBC a’i ddefnyddio i dalu am S4C ond bydd y BBC yn rhoi trwydded i’r sianel newydd ac yn rhannu’r cyfrifoldeb am ei strategaeth a’i chynnwys yn gyffredinol.
Anfonodd Rhys Llwyd lythyr at y BBC yn dweud nad oedd y rhaglen wedi dangos y ddwy ochor i’r ddadl.
“Roedd y ffaith na chafodd y dadleuon yn erbyn uno S4C a’r BBC eu cyflwyno yn tanlinellu ein pryder ynglŷn â beth allai ddigwydd pe bae’r uno yn digwydd,” meddai Rhys Llwyd wrth Golwg360.
“Efallai fod yna unigolion cefnogol i’r Gymraeg yn gweithio i BBC Cymru. Ond, wrth siarad am weld y BBC yn traflyncu S4C rydym ni’n siarad am weld sefydliad Cymraeg sydd â’i bencadlys yng Nghymru yn cael ei lyncu gan sefydliad Prydeinig â’i bencadlys yn Llundain.
“Mae hyn yn gwbl annerbyniol ac nid oedd llais i’r ddadl yma ar y rhaglen neithiwr,” meddai.
Mewn ymateb dywedodd BBC Cymru: “Mae’r holl gwynion a dderbynnir gan y BBC yn cael eu trin yn yr un modd, ac rydym yn anelu at ymateb yn llawn o fewn deg diwrnod. Mae mwy o wybodaeth am y broses gwynion ar gael yma.”
Llythyr Rhys Llwyd
“Roeddwn i’n ei gweld hi’n annheg fod rhaglen gan y BBC yn rhoi cyfle i Menna Richards, Cyfarwyddwr BBC Cymru, werthu ac amddiffyn y syniad o fod y BBC ac S4C yn uno ond na roddwyd llais i’r ddadl gref gyhoeddus sy’n bodoli yn erbyn yr uno ar y rhaglen,” meddai.
“Ni roddwyd llais i gynhyrchwyr annibynnol, arbenigwyr yn y sector, S4C eu hunain a Chymdeithas yr Iaith sy’n gwrthwynebu’r uno er i’r BBC dderbyn datganiadau i’r wasg dros y dyddiau diwethaf yn arwain i fyny at ddiwrnod darlledu’r rhaglen yn mynegi’r farn yma.
“Roedd hon yn rhaglen gan y BBC yn rhoi llais dyrchafedig i safbwynt y BBC a’i Chyfarwyddwr yng Nghymru, Menna Richards. Roedd yr argraff erbyn rhan olaf y rhaglen fod safbwynt golygyddol y rhaglen yn fwriadus weithredu fel apologia i bolisi presennol y BBC o gefnogi polisi’r Llywodraeth o uno’r BBC ac S4C.”
Pwysig
Dywedodd ymgyrchydd arall o Gymdeithas yr Iaith, Hedd Gwynfor, fod y rhaglen yn pwysleisio “pa mor bwysig yw hi fod S4C yn aros yn annibynnol” ac nad oedd y rhaglen neithiwr wedi “rhoi ochr arall y ddadl.”
“Y prif bryder i mi yw os fyddai S4C yn rhan o’r BBC, ni fyddai’n bosibl gwneud rhaglenni o’r fath,” meddai Hedd Gwynfor wrth Golwg360.
“Mae’r rhaglen yn pwysleisio pa mor bwysig ydi o i S4C aros yn annibynnol – i S4C gael ymchwilio i’r BBC a vice versa.”