Mae 11 o bobol wedi cael eu harestio heddiw ar ôl i fachgen 17 oed gael ei drywanu i farwolaeth, meddai’r heddlu.
Cafodd y llanc ei drywanu yn gynnar bore ‘ma ar ôl i’r heddlu gael gwybod tua 12.25am bod yna anghydfod ar Bray Road yn ardal Mill Hill, gorllewin Llundain.
Mae ditectifs o Heddlu’r Met wedi lansio ymchwiliad ac maen nhw’n cadw meddwl agored ynglŷn â’r cymhelliad.
“Fe aeth swyddogion i’r fan a’r lle a dod o hyd i fachgen 17 oed yn dioddef o glwyfau trywanu i’w gorff,” meddai llefarydd ar ran Scotland Yard.
“Aethpwyd ag ef i Ysbyty Cyffredinol Barnet ond roedd o wedi marw.”
Dywedodd yr heddlu bod 11 dyn wedi cael eu harestio, a bod teulu’r dioddefwr wedi cael gwybod.
Cyrhaeddodd tua 30 aelod o deulu a ffrindiau’r bachgen fu farw ar Bray Road bore ‘ma i osod blodau.