Fe fydd ffilm o lyfr JRR Tolkien, The Hobbit, yn cael ei ffilmio yn Seland Newydd wedi’r cwbl ar ôl i lywodraeth y wlad ddod i gytundeb gyda stiwdio Warner Bros.

Roedd y stiwdio wedi bygwth symud y ffilm dramor ar ôl i undeb actorion y wlad fygwth streicio, gan arwain at ddeufis o ansicrwydd ynglŷn â dyfodol y ffilm.

Dywedodd y Prif Weinidog, John Key, bod y llywodraeth wedi cytuno i fuddsoddi mwy o arian yn y ffilm a fydd yn costio $500m i’w chreu.

Roedd Seland Newydd wedi mwynhau hwb mawr i dwristiaeth yn dilyn rhyddhau’r ffilmiau Lord of the Rings, wrth i gefnogwyr heidio draw i ‘Middle Earth’.

Dywedodd John Key y byddai Warner Bros yn defnyddio ei rym marchnata er mwyn hybu Seland Newydd dramor.

“Rydw i wrth fy modd ein bod ni wedi cyflawni hyn,” meddai John Key. “Bydd creu’r ffilmiau fan hyn yn diogelu gwaith miloedd o bobol Seland Newydd ac yn dilyn yn ôl troed llwyddiant Lord of the Rings.”

Cyhoeddwyd yr wythnos diwethaf mai Martin Freeman fyddai’n chwarae prif ran Bilbo Baggins, gyda Richard Armitage yn chwarae rhan y corrach Thorin Oakenshield.