Mae pumed ran o anifeiliaid y byd mewn peryg o ddiflannu, yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd heddiw.

Yn ôl astudiaeth i niferoedd 25,000 o rywogaethau gwahanol gan yr Undeb Rhyngwladol Cadwraeth Natur roedd nifer yr anifeiliaid oedd yn wynebu cael eu colli ar gynnydd.

Yn ôl ‘Rhestr Goch’ yr undeb, mae 19% o anifeiliaid y byd bellach dan fygythiad, gan gynnwys 41% o amffibiad.

Yn ôl yr ymchwil a gyhoeddwyd yng nghylchgrawn Science, roedd 52 rhywogaeth ychwanegol yn syrthio o leiaf un safle i lawr y ‘Rhestr Goch’ sy’n dangos mewn faint o beryg y maen nhw, bob blwyddyn.

Ond heb gadwraeth fe fyddai’r sefyllfa’n llawer gwaeth, gydag 20% yn fwy o anifeiliaid yn symud i lawr un gris bob blwyddyn, yn ôl yr adroddiad.

Mae gwaith cadwraethol er mwyn achub rhai rhywogaethau wedi dod a nhw’n ôl o ymyl y dibyn, medden nhw, gan enwi’r trwyngornfil gwyn a’r morfil cefngrwm.

Roedd 64 o rywogaethau gwahanol wedi gweld cynnydd yn eu statws o ganlyniad i waith i’w hachub nhw.

Doedd nifer o rywogaethau eraill oedd wedi cael gofal heb weld unrhyw gynnydd, ond roedd yr undeb yn amcangyfrif y bydden nhw wedi diflannu’r gynt heb unrhyw gymorth.