Mae ysgrifennydd diwylliant yr wrthblaid, Ivan Lewis, wedi galw am ymchwiliad seneddol brys i setliad trwydded teledu’r BBC.
Cyhoeddwyd y byddai’r BBC yn cymryd cyfrifoldeb dros S4C a’r World Service ar ôl trafodaethau brysiog dros gyfnod o 48 awr ddechrau’r wythnos diwethaf.
Datgelwyd hefyd y byddai ffi leisans y gorfforaeth yn cael ei rewi ar £147.50 am chwe blynedd, tan 2017.
Mae Ivan Lewis wedi ysgrifennu at John Whittingdale, yr AS Ceidwadol sy’n cadeirio pwyllgor dethol diwylliant Tŷ’r Cyffredin, gan alw arno i ymchwilio i’r cytundeb chwe blynedd.
Dywedodd Ivan Lewis ei fod o eisiau i weinidogion a phrif weithredwyr y BBC roi tystiolaeth o flaen Aelodau Seneddol ynglŷn â sut y cafodd y cytundeb ei phenderfynu.
Dechrau’r wythnos dywedodd yn Nhŷ’r Cyffredin fod yna rywbeth “nad oedd yn iawn” am y cytundeb.
Ychwanegodd bod y cytundeb “yn sathru ar annibyniaeth y BBC, ac nad oedd yna unrhyw ymgynghori gyda’r bobol sy’n talu’r drwydded teledu na chwaith seneddwyr”.
“Y BBC yw un o sefydliadau mawr y wlad yma ac mae ei ddyfodol o ddiddordeb i’r cyhoedd,” meddai yn y llythyr.
Y cytundeb
Mae’n debyg mai dim ond Jeremy Hunt, yr Ysgrifennydd Diwylliant, cadeirydd Ymddiriedolaeth y BBC, Sir Michael Lyons, a Chyfarwyddwr Cyffredinol y BBC, Mark Thompson, oedd yn rhan o’r trafodaethau.
Roedd Jeremy Hunt wedi gofyn i’r BBC dalu am gost £556m blynyddol darparu trwyddedau teledu ar gyfer pobol dros 75 oed.
Gwrthododd y BBC y cytundeb hwnnw ac felly bu’n rhaid penderfynu y bydden nhw’n talu am S4C a’r World Service lai nag 48 awr cyn i George Osborne ddatgelu ei Adolygiad Gwario Cynhwysfawr yn Nhŷ’r Cyffredin ddydd Mercher.
Mae’r gorfforaeth wedi dweud y bydd rhaid iddyn nhw arbed £140m bob blwyddyn am bedair blynedd er mwyn talu am ariannu S4C a’r World Service.