Cyn Aelod Seneddol Maldwyn, Lembit Opik, yw’r ‘seleb’ diweddaraf fydd yn ymddangos ar gyfres I’m A Celebrity…Get Me Out of Here eleni, yn ôl adroddiadau heddiw.
Yn ôl papur newydd y Sun fe fydd y gwleidydd yn ymddangos ar y rhaglen fydd yn cael ei ffilmio yn Awstralia fis nesaf.
Mae’n debyg y bydd Lembit Opik, sy’n gobeithio cymryd rhan yn yr etholiad ar gyfer Maer Llundain yn 2012, yn cael ei dalu £65,000 am gymryd rhan yn y rhaglen.
Gwrthododd ei asiant gadarnhau neu wadu’r adroddiadau.
Ers gadael San Steffan mae Lembit Opik wedi bod yn gweithio fel digrifwr ac ymddangos ar raglenni eraill, gan gynnwys Come Dine With Me.
Mae ei gyn ddyweddi, Sian Lloyd, eisoes wedi ymddangos ar I’m a Celebrity… yn 2003.