Fe fydd trafodaethau’n digwydd heddiw i geisio rhwystro diffoddwyr tân Llundain rhag streicio ar Noson Tân Gwyllt.
Dywedodd Undeb y Diffoddwyr Tân – yr FBU – y byddai eu tîm trafod llawn yn cyfarfod gyda chynrychiolwyr o Frigâd Dân Llundain.
“Rydym yn gobeithio y bydd y frigâd dân yn cydweithio’n briodol â ni er mwyn i ni atal y gweithredu diwydiannol,” meddai llefarydd ar ran yr FBU.
Fe ddywedodd llefarydd ar ran Brigâd Dân Llundain y byddai’n barod i “siarad unrhyw awr o’r dydd i geisio osgoi’r streiciau pellach”.
Mae miloedd o aelodau’r FBU wedi bygwth cerdded allan am ddau ddiwrnod, gan ddechrau ar 5 Tachwedd, un o nosweithiau prysura’r flwyddyn.
Maen nhw’n gwrthwynebu cytundebau newydd, gan brotestio eu bod mewn peryg o golli eu gwaith os nad oedden nhw’n derbyn patrymau shifft gwahanol.
Ddoe, fe ddywedodd y Llywodraeth bod y streic yn “anghyfrifol a sinigaidd” ac mae Arweinydd y Blaid Lafur, Ed Miliband, wedi dweud na fyddai’n cefnogi’r gweithredu.
Llun: Arddangosfa dân gwyllt (Scanbus – Trwydded GNU)