Mae angen rhoi’r gorau i archwiliadau diogelwch diangen ym meysydd awyr gwledydd Prydain, meddai Cadeirydd cwmni awyrennau BA.

Mae’n dweud nad oes pwynt yn rhai o’r mesurau sydd i fod i warchod rhag terfysgaeth, gan gynnwys gorfodi teithwyr i dynnu eu hesgidiau neu dynnu cyfrifiaduron o fagiau.

Yn ôl Martin Broughton, mae’r Unol Daleithiau’n mynnu bod meysydd awyr gwledydd Prydain yn cynnal safonau uwch na’u meysydd eu hunain.

Fe ddywedodd wrth gynhadledd yr UK Airport Operators Association yn Llundain bod eisiau cael gwared ar lawer o’r archwiliadau.

“Dyw’r Unol Daleithiau ddim yn gwneud llawer o’r pethau y maen nhw’n mynnu ein bod ni yn eu gwneud,” meddai.

“Ddylen ni ddim cymryd hynny. Fe ddylen ni ddweud mai dim ond y pethau yr ‘yn ni’n eu hystyried yn hanfodol ac y mae’r Americanwyr hefyd yn ei hystyried yn hanfodol y byddwn i’n eu gwneud.”

Llun: Mesurau diogelwch mewn maes awyr (Ralf Rotelschek CCA 3.0)