Mae disgwyl y bydd y Senedd yn Ffrainc yn rhoi sêl bendith terfynol ar gynlluniau godi’r oed pensiwn – er gwaetha’ pythefnos o brotestiadau ffyrnig.
Erbyn neithiwr, yn ôl papurau Ffrainc, roedd pedair o bob pum gorsaf betrol bellach yn agored eto, er bod mwy o broblemau yn rhai o’r ardaloedd gwledig, gan gynnwys Llydaw.
Roedd pedair o’r 12 purfa olew yn y wlad hefyd yn gweithio eto wrth i’r blocâd arnyn nhw gael ei lacio.
Mae’n ymddangos bod sbwriel yn dechrau cael ei glirio oddi ar strydoedd Marseille hefyd wrth i’r Gweinidog Cyllid, Christine Lagarde, ddweud bod yr anghydfod wedi costio tua £357 miliwn y dydd i’r wlad.
Mae’r protestwyr yn gwrthwynebu’r bwriad i godi oed y pensiwn sylfaenol o 60 i 62 a’r pensiwn llawn o 65 i 67.
Mae’r undebau llafur yn Ffrainc yn ystyried bod ymddeol yn 60 oed yn hawl cymdeithasol pwysig ond, yn ôl y Llywodraeth, mae’n rhaid codi’r oed er mwyn arbed y system bensiynau, wrth i bobol fyw yn hŷn.
Llun: Papur gorllewin Ffrainc yn adrodd am y protestio