Dyw mwy na hanner y gorsafoedd trên yng Nghymru ddim yn addas ar gyfer pobol anabl, yn ôl adroddiad newydd gan ACau.

Yn ôl Cadeirydd Pwyllgor Cyfleoedd Cyfartal y Cynulliad, Ann Jones, mae’r sefyllfa’n annerbyniol ac maen nhw’n annog Llywodraeth y Cynulliad i wneud popeth all hi i wella’r sefyllfa.

Roedd y dystiolaeth i’r Pwyllgor yn dangos nifer sylweddol o broblemau:

• Mae’n rhaid i deithwyr gydag anableddau drefnu 24 awr ymlaen llaw os byddan nhw angen cymorth.

• Mewn sawl gorsaf, dim ond pontydd troed sy’n mynd â phobol o un platfform i’r llall – mae hynny’n cynnwys gorsafoedd cymharol fawr fel Port Talbot a Chastell Nedd. Mae Machynlleth a Chas-gwent yn enghreifftiau eraill.

• Yn aml, mae’r bwlch rhwng y trên a’r platfform yn rhy lydan i bobol anabl eu croesi, yn enwedig pobol mewn cadeiriau olwyn.

• Yn aml, does dim digon o staff ar gael i helpu pobol gydag anableddau a does dim digon o gyhoeddusrwydd i gynlluniau a allai eu helpu.

• Does dim tŷ bach addas i bobol anabl yn 89% o’r gorsafoedd.

Mae’r Pwyllgor yn cydnabod bod peth gwaith gwella wedi digwydd ac nad oes gan Lywodraeth y Cynulliad lawer o bŵer tros orsafoedd na’r system reilffyrdd. Ond maen nhw’n annog y Llywodraeth i ddefnyddio’i dylanwad ac arian i annog gwelliannau.

“Wrth i ni groesawu’r gwelliannau sydd wedi bod, ryden ni’n teimlo bod modd gwneud llawer mwy i wella gorsafoedd, ac y dylai hynny ddigwydd,” meddai Ann Jones.

Dyma rai enghreifftiau

Roedd gwraig gyda phroblemau golwg yn dweud ei bod yn “hunllef” mynd i’r brif orsaf yng Nghaerdydd. Roedd hi’n gorfod croesi llwybrau bysys ac ar, ôl cyrraedd, roedd y cyntedd mor fawr ac agored fel ei bod yn anodd ffeindio’i ffordd.

Pe bai person gydag anabledd eisiau mynd i Bort Talbot ar nos Sul, fe fyddai’n rhaid iddyn nhw fynd i orsaf arall fel Castell Nedd a chael tacsi o fan’no.

Llun: Trê n wrth blatfform (Cynulliad)