Mae ffrwydrad llosgfynydd a tsunami wedi lladd degau o bobol mewn dwy ardal gannoedd o filltiroedd ar wahân yn Indonesia.
Ffrwydrodd Mynydd Merapi ddoe gan ladd o leiaf 25 o bobol, a gorfod miloedd i ffoi i lawr y lethrau wrth i’r mynydd gyfogi lludw llosg ar ynys Java.
Yn y cyfamser, 800 milltir i’r gorllewin oddi ar arfordir Sumatra, tarodd tsunami 10 troedfedd gan ladd o leiaf 113 o bobol a dinistrio cannoedd o dai. Mae 500 o bobol yn dal i fod ar goll.
Digwyddodd y ddau drychineb ychydig oriau ar wahân mewn ardal ble mae daeargrynfeydd a ffrwydradau llosgfynydd yn gyffredin.
Y llosgfynydd
Roedd gwyddonwyr wedi bod yn rhybuddio ers dyddiau y gallai Mynydd Merapi ffrwydro, ond dywedodd Gede Swantika, arbenigwr llosgfynyddoedd y llywodraeth, y gallai’r broblem barhau’n hir. “Mae’n rhy gynnar i wybod yn iawn,” meddai. “Ond fe allai fod yn ffrwydrad hir ac araf.”
Roedd y bobol sy’n byw ar lethrau’n mynydd wedi gwrthod symud i ddechrau, gan ddeud y byddai’n well ganddyn nhw amddiffyn eu cnydau a’u tai.
Ond unwaith y ffrwydrodd y mynydd dechreuodd y bobol lifo yn eu miloedd i lawr y mynydd ac i mewn i lochesau argyfwng y llywodraeth.
Dywedodd Endita Sri Andiyanti, llefarydd ar ran y brif ysbyty sy’n trin y dioddefwyr, bod o leiaf 25 o bobol wedi marw, gan gynnwys baban deufis oed, a dwsinau eraill wedi eu hanafu.
Fe fu farw dau o bobol mewn ffrwydrad ar y mynydd yn 2006, 60 o bobol yn 1994, a 1,300 o bobol yn 1930.
Tsunami
Yn y cyfamser roedd awdurdodau’r wlad yn ceisio asesu faint o ddifrod achoswyd gan tsunami ddaeth yn sgil daeargtyn 7.7 ar y raddfa Richter oddi ar arfordir Sumatra.
Dyna’r un ffawt a achosodd tsunami 2004 a laddodd 230,000 o bobol mewn dwsin o wledydd gwahanol.
Ar ôl y daeargryn a’r tsunami ddoe roedd miloedd wedi ffoi i’r tir uchel ac wedi gwrthod dychwelyd i’w tai.
Y gobaith yw bod y 500 o bobol sydd yn dal i fod ar goll yn cuddio yn y bryniau ac yn fyw ac iach.
Llun: Indonesia – y difrod