Mae hyfforddwr cynorthwyol Cymru, Rob Howley yn credu y bydd Chris Czekaj yn benderfynol o brofi ei fod o’n haeddu chwarae i’r tîm rhyngwladol yn ystod cyfres yr hydref.
Mae chwaraewr y Gleision wedi cael ei ychwanegu at garfan Cymru ar ôl i Warren Gatland gael cadarnhad na fydd Lee Byrne ar gael i wynebu Awstralia, De Affrica a Fiji yn dilyn anaf i’w law.
Fe fydd Czekaj yn cystadlu gyda Tom Prydie, James Hook a Will Harries am grys rhif 15, ac mae Howley yn credu y bydd ganddo bwynt i’w brofi.
“Fe gafodd Chris ei gynnwys i ychwanegu at yr opsiynau yn safle’r cefnwr,” meddai Howley.
“Mae Chris wedi bod yn chwarae’n dda. Fe fydd hi’n ddiddorol i weld sut y mae o’n ei wneud yn yr ymarferion.
“Roedden ni wedi dweud wrtho ein bod ni ychydig yn siomedig gyda’r ffitrwydd. Dyna’r prif reswm iddo gael ei adael allan o’r garfan yn y lle cynta’.
“Ond mae o wedi cael ail gyfle, ac mae’n rhaid iddo wneud y gorau ohono.”
Anafiadau eraill
Mae Cymru hefyd wedi colli Rob McCusker sydd wedi gadael y garfan i gael llawdriniaeth ar hernia.
Mae yna amheuon ynglŷn â ffitrwydd pedwar chwaraewr arall, sef Ryan Jones, Bradley Davies, Richie Rees a Leigh Halfpenny.
“Mae’n siomedig ond r’yn ni wedi bod yn y sefyllfa yma o’r blaen – dyma natur y gêm,” nododd Rob Howley.
“Nid ni yw’r unig dîm cenedlaethol sydd â phroblemau gydag anafiadau. Fe fydd rhaid i ni aros dros y dyddiau nesaf i weld sut y mae chwaraewyr fel Ryan a Leigh.”