Mae streiciau mawr Ffrainc i’w gweld wedi colli stêm heddiw wrth i gasglwyr sbwriel a gweithwyr mewn tair purfa olew fynd yn ôl i’r gwaith.
Mae’r casglwyr biniau yn ninas ddeheuol Marseille wedi dechrau casglu’r bagiau oedd wedi’u pentyrru ar y strydoedd yn ystod pythefnos o brotest yn erbyn codi’r oed ymddeol o 60 i 62.
Pleidleisiodd yr undeb FO i ddod â’r brotest i ben er lles “diogelwch a glanweithdra”.
Mae naw purfa olew dal wedi’u cau gan streicwyr, ond mae gweithwyr mewn tair purfa wedi pleidleisio i fynd yn ôl i’r gwaith.
Mae disgwyl y bydd hi’n cymryd sawl diwrnod i’r purfeydd fod yn weithredol unwaith eto.
Mae tua un ym mhob pedwar gorsaf betrol yn Ffrainc wedi gorfod cau, ac mae trenau ac ysgolion hefyd wedi eu heffeithio gan streiciau.