Fe fydd hi’n anodd cyfiawnhau rhoi arian ychwanegol i gynghorau os ydi ffyrdd Cymru yn llawn tyllau eto ar ôl y gaeaf, meddai Llywodraeth y Cynulliad heddiw.

Daw hyn wedi i arolwg ddangos bod 20% o gwmnïau Cymru yn ystyried symud am nad yw’r ffyrdd yn ddigon da.

Yn ôl Cynghrair y Diwydiant Asffalt, a wnaeth gynnal yr arolwg, mae ffyrdd sydd wedi eu cynnal yn wael yn costio £4.1 biliwn i economi Prydain bob blwyddyn.

Ond dywedodd Llywodraeth y Cynulliad wrth Golwg 360 y bydd llai o arian ychwanegol ar gael i gynghorau drwsio ffyrdd yn y dyfodol, o ganlyniad i’r cyfyngiadau ariannol.

Fe achosodd y tywydd oer dros y ddau aeaf diwethaf i fwy o dyllau ymddangos yn y ffyrdd na’r arfer, gan ychwanegu at gost cynnal a chadw cynghorau, a mae disgwyl gaeaf llym arall eto dros y misoedd nesaf.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru mai “cyfrifoldeb awdurdodau lleol a chynghorau yw cynnal, cadw ac atgyweirio ffyrdd”.

“Yn gynharach eleni, o dan gyfyngiadau ariannol tynn, fe wnaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru gyhoeddi £2.75m ychwanegol i gynghorau i atgyweirio ffyrdd oedd wedi’u heffeithio gan yr eira.

“Roedd hyn ar ben grant £5 miliwn ychwanegol er mwyn cynnal a chadw ffyrdd lleol.”

Ond dywedodd y llefarydd bod cyllideb y Llywodraeth ar gyfer y flwyddyn nesaf, sydd bron £900m yn llai na’r flwyddyn hon, yn golygu y bydd hi’n “anodd ateb unrhyw alw am arian ychwanegol oddi wrthym dan amgylchiadau o’r fath”.


Yr arolwg

Roedd safon wael y ffyrdd yn costio £13,600 mil ar gyfartaledd i fusnesau bach a canolig eu maint bob blwyddyn, yn ôl yr arolwg.

Mae 56% o bobol Prydain hefyd yn teimlo bod safon y ffyrdd wedi gwaethygu dros y pum mlynedd diwethaf, medden nhw.

Ar draws Prydain, roedd 15% o gwmnïau yn ystyried symud oherwydd safon y ffyrdd, ond roedd 20% o gwmnïau’n yn ystyried hynny yng Nghymru.

Roedd 33% o bobol Prydain yn dweud bod safon y ffyrdd yn effeithio ar le oedden nhw’n siopa, ac roedd 45% yn ystyried safon y ffyrdd wrth brynu tŷ.

“Fe fyddai gwella safon y ffyrdd yn helpu busnesau bychan a chanolig eu maint i yrru’r adferiad economaidd yn ei flaen,” meddai cadeirydd y gynghrair, Colin Loveday.

Dywedodd Gweinidog Ffyrdd San Steffan bod safon y ffyrdd yn “bwysig iawn os ydi’r economi yn mynd i dyfu”.

“Dyna pam – er ein bod ni dan bwysau ariannol mawr – rydan ni’n buddsoddi £3 biliwn mewn cynnal ffyrdd lleol dros y pedair blynedd nesaf.”