Mae cyn reolwr Radio 4 y BBC, Mark Damazer, wedi rhybuddio y bydd y toriadau i gyllideb y BBC yn effeithio ar ansawdd cynnyrch y gorfforaeth.
Yr wythnos diwethaf penderfynodd Llywodraeth San Steffan y bydd y BBC yn gorfod talu am S4C a’r World Service – fydd yn torri 16% oddi ar gyllideb y gorfforaeth.
Wrth ysgrifennu yn y Radio Times diweddaraf, sy’n cael ei gyhoeddi heddiw, rhybuddiodd Mark Damazer na fyddai torri cyflogau yn ddigonol er mwyn arbed yr arian.
Dywedodd ei fod o wedi cwrdd ag aelod o’r Cabinet yr wythnos yma oedd yn honni nad oedd yna unrhyw reswm pam y dylai safon allbwn y BBC ostwng o ganlyniad i’r toriadau.
“Does gen i ddim syniad pam ei fod o mor siwr,” meddai. “Fe fydd yna rywfaint o arian yn cael ei arbed drwy atal gwastraff. Ond fy nheimlad i yw na fydd hynny, ar ei ben ei hun, yn ddigon.
“Rydw i’n gobeithio nad ydi pwy bynnag oedd yn gwneud y mathemateg yn y Trysorlys yn credu y gallai’r BBC ymdopi gyda’r poen drwy dorri tâl rheolwyr a sêr y sianel.
“Fe fyddai hynny’n ffracsiwn bach iawn o’r ateb i broblemau ariannol newydd y BBC.”