Mae’r Cyngor Cefn Gwlad wedi bod yn defnyddio lloerenni yn y gofod er mwyn creu mapiau o gynefinoedd bywyd gwyllt Cymru.
Ar ôl i’r gwaith gael ei gwblhau, ddiwedd mis Mawrth 2012, Cymru fydd y wlad gyntaf yn Ewrop i greu map cenedlaethol o gynefinoedd drwy ddefnyddio technoleg ofodol.
Caiff y prosiect ei arwain gan y Cyngor Cefn Gwlad, ar y cyd â Phrifysgol Aberystwyth ac Environment Systems.
Fe fydden nhw’n datgelu rywfaint o’r gwaith mewn digwyddiad arbennig yn Yr Amgueddfa Genedlaethol, Caerdydd, heddiw.
Cafodd yr arolwg gwreiddiol o gynefinoedd bywyd gwyllt Cymru ei gynnal gan griw o fiolegwyr o’r Cyngor Cefn Gwad a fu’n crwydro Cymru dros gyfnod o ddegawdau.
Ond erbyn hyn, trwy ddefnyddio delweddau o loerenni sy’n pasio dros Gymru, mae modd diweddaru’r mapiau’n llawer rhatach a chyflymach, meddai’r cyngor.
Mae’r lluniau lloeren yn cynnwys mwy fyth o fanylion nag a gasglwyd gan y gweithwyr maes yn ystod yr arolwg gwreiddiol, ddaeth i ben yn 1997, medden nhw.
‘Haws a rhatach’
“Er mwyn cynllunio a rheoli’r newidiadau sy’n effeithio ar amgylchedd naturiol Cymru, mae’n hollbwysig fod gennym ni’r wybodaeth orau bosib,” meddai Keith Davies, Pennaeth Polisi Amgylcheddol y Cyngor Cefn Gwlad.
“Does unman arall ym Mhrydain wedi cynnal arolygon ar yr un raddfa na’r un dwyster â’r arolygon maes gwreiddiol a gynhaliwyd yma yng Nghymru.
“Gan fod modd inni ddiweddaru’r mapiau gwreiddiol, ac olrhain unrhyw newidiadau, mi fyddan nhw’n cynnig sylfaen wyddonol gadarn i’r cyngor a roddwn i’r Llywodraeth, awdurdodau lleol ac eraill ynglŷn â’r ffyrdd gorau o reoli a gwarchod adnoddau naturiol Cymru.”
Dywedodd yr Athro Richard Lucas o Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth, bod defnyddio technoleg lloeren yn “gwneud y dasg o fapio a monitro maint a chyflwr cynefinoedd a thiroedd amaethyddol yn llawer haws a rhatach”.
“Rydw i wrth fy modd ein bod yn gallu adeiladu ar waith ymroddedig y cadwraethwyr a gynhaliodd yr arolwg gwreiddiol.
“Drwy ddefnyddio delweddau lloeren, rydyn ni’n gallu diweddaru’r mapiau, monitro newidiadau ar lefel genedlaethol, a chyfrannu at gynllunio yng ngoleuni hyn.
“Gyda thechnolegau newydd, gallwn rannu’r wybodaeth â chynulleidfa eang a chwarae rhan allweddol yn y gwaith o sicrhau fod treftadaeth naturiol Cymru’n cael ei warchod i genedlaethau’r dyfodol.”