Mae Aelodau Cynulliad Plaid Cymru wedi gwirfoddoli i gael eu cyflogau wedi’u rhewi fel rhan o’u trafodaethau gyda’r bwrdd cydnabyddiaeth sy’n edrych ar wariant yn y Cynulliad.
Mewn llythyr at y bwrdd, dywedodd dirprwy arweinydd y Blaid, Helen Mary Jones, eu bod yn cefnogi rhewi cyflogau ac y dylid cymryd y cam hwn cyn gynted ag y bo modd.
“Ar adeg pan fo llawer o weithwyr y sector cyhoeddus ym mhob cwr o Gymru yn gorfod derbyn cyflogau wedi’u rhewi, yr oeddem ni fel grŵp yn teimlo ei bod ond yn iawn i ninnau wynebu’r un amodau,” meddai Aelod Cynulliad Llanelli, Helen Mary Jones.
“Yr oeddem yn teimlo’n gryf fod cysylltu â’r bwrdd i wirfoddoli i gael ein cyflogau wedi’u rhewi yn bwysig ar adeg pan ydym yn ymladd yn erbyn toriadau mor llym mewn swyddi’r sector cyhoeddus.”
Mae Aelodau Cynulliad yn cael eu talu £53,852 ar hyn o bryd, o’i gymharu â £64,766 ar gyfer Aelodau Seneddol.
“Yr oeddem eisiau mynd ati i wneud rhywbeth ynghylch hyn, felly roeddwn yn falch iawn fod grŵp y Blaid yn unedig yn eu penderfyniad i fynd at y bwrdd gydag awgrym ein bod yn cael ein cyflogau wedi’u rhewi cyn gynted ag sydd modd,” meddai Prif Chwip y Blaid, Chris Franks.