Tyfodd economi Prydain 0.8% yn ystod y tri mis diwethaf, gan leddfu ofnau bod y wlad yn wynebu dirwasgiad dwbl.

Roedd y twf yn llai na’r 1.2% yn ystod y tri mis blaenorol, ond yn well na’r 0.4% neu lai yr oedd y rhan fwyaf o arbenigwyr wedi ei ddisgwyl.

Mae economi Prydain wedi tyfu 2% dros y chwe mis diwethaf – y tyfiant mwyaf dros dau chwarter ers 10 mlynedd, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Bydd y ffigyrau yn hwb i Lywodraeth San Steffan oedd wedi gofidio y byddai twf gwannach yn arwain at feirniadaeth eu bod nhw wedi torri gwariant cyhoeddus yn rhy gyflym.

Ddoe cyhuddodd arweinydd Llafur, Ed Miliband, y llywodraeth o “gymryd gambl mawr gyda’r economi”.

Y gobaith yw y bydd twf yn y sector breifat yn rhoi gwell cyfle i Brydain wrthsefyll y toriadau £81 biliwn gyhoeddwyd dydd Mercher diwethaf.

Addawodd y Prif Weinidog, David Cameron y byddai’n “canolbwyntio ar gynnydd yn yr economi” o hyn ymlaen er mwyn creu swyddi ar gyfer y tua 490,000 o bobol a fydd yn colli eu gwaith o ganlyniad i’r toriadau.