Mae’n cymryd mwy o amser i ddod o hyd i le i barcio yn Aberystwyth nag yn unrhyw ran arall o Brydai, yn ôl arolwg newydd.

Dywedodd cwmni meysydd parcio NCP bod pobol sy’n teithio i Aberystwyth yn treulio 35 munud bob dydd ar gyfartaledd yn chwilio am le i barcio.

Mae hynny’n 10 munud yn fwy na’r cyfartaledd ar draws Prydain. Roedd yr arolwg wedi holi 9,000 o bobol ynglŷn â’r llefydd anoddaf i ddod o hyd i le i barcio.

Roedd yr arolwg hefyd yn datgelu bod gyrwyr Prydain yn treulio cyfartaledd o 152 awr – neu chwe diwrnod – yn ceisio dod o hyd i le i barcio bob blwyddyn.

Yn ôl yr arolwg roedd chwilio am le i barcio yn costio £120 mewn tanwydd bob blwyddyn

Dywedodd Cynghorydd canol Aberystwyth, Ceredig Wyn Davies, bod pawb yn ymwybodol o’r trafferthion parcio.

“Mae o’n dref prifysgol gyda’r môr ar un ochr, a bryn ar yr ochor arall – mae’r drefn mewn ardal cyfyng iawn,” meddai.